Ydych chi erioed wedi meddwl am byth yn digwydd i’ch ailgylchu chi ar ôl iddo gael ei gasglu gan eich cyngor? Mae Fy Ailgylchu Cymru yn eich galluogi chi i edrych ar wahanol awdurdodau a gweld beth sydd yn digwydd ar draws y DU, a hyd yn oed ledled y byd.

Mae Fy Ailgylchu Cymru wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr amgylcheddol WRAP Cymru er mwyn darparu gwybodaeth am beth sydd yn digwydd i’ch ailgylchu. Mae’r wefan yn dangos faint o ailgylchu mae eich awdurdod lleol yn casglu bob blwyddyn, a beth sydd yn digwydd iddo.

Sut mae’r data yn cael ei gasglu?

Mae’r data sydd yn cael ei defnyddio yn y wefan yma yn dod i WhereDataFlow, system adrodd ar-lein ar gyfer casglu data gwastraff bob awdurdod lleol ar draws y DU. Mae’r data sydd wedi ei darparu gan awdurdodau lleol Cymru wedi cael ei dilysu gan Adnoddau Naturiol Cymru.

Mae cwestiwn 100 o WasteDataFlow yn gofyn awdurdodau lleol i adrodd gymaint o wybodaeth ac sydd yn bosibl am o fewn reswm am beth sydd yn digwydd i ddeunyddiau sydd yn cael eu gyrru i gael eu hailgylchu. Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wella cywirdeb eu hadroddiadau.

Y gwahanol fathau o gyrchfannau

  • Mae pob cyrchfan adroddedig yn cael ei dosbarthu yn ôl math, fel y olynir:CAD: Mae Cyfleuster Adfer Deunyddiau yn gwahanu a pharatoi deunyddiau ailgylchadwy i gael eu gwerthu i’r farchnad neu wneuthurwyr. Mae unrhyw na ellir ei ailgylchu yn cael ei yrru ar gyfer triniaeth bellach neu ei gwaredu. Mae yna fel arfer dau fath o CAD: Glân a Gweddilliol.
  1. Mae CAD glân yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy i fathau gwahanol er mwyn cael eu paratoi ar gyfer eu trosglwyddo ymlaen.
  2. Mae CAD weddilliol yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy o wastraff wedi’i gymysgu a gwastraff gweddilliol. Mae deunyddiau wedi’u hadennill yn cael eu trosglwyddo ymlaen. 
  • Masnachwyr: Mae masnachwyr ar gyfer gwastraff ailgylchadwy yn helpu gwneuthurwyr ledled y byd olrhain deunyddiau ailgylchadwy ac wedi’i ailgylchu i’w defnyddio yn eu prosesau cynhyrchu, Mae masnachwyr yn cymryd rhan hyrwyddwyr ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy rhwng y marchnadoedd gwahanol.
  • Ail-brosesydd: Mae ail-brosesyddion yn cymryd deunyddiau ailgylchadwy wedi’u gwahanu ac yn eu ail-gwneuthuro yn gynnyrch newydd. Mae rhai prosesyddion gyda CAD ar y maes, ond ddim o hyd.

 

Cwestiynau cyffredin

Pa mor bell alla’ i olrhain fy ailgylchu?

Mae Fy Ailgylchu Cymru yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Mewn rhai achosion, golyga hyn y gellir olrhain ailgylchu mor bell â’r ailbroseswr, gydag eraill, aiff mor bell ag allforiwr neu fasnachwr. Rydym yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl ond weithiau nid yw’r data ar gael.

Beth mae ‘anhysbys’ yn ei olygu?

Mae anhysbys yn golygu nad oes gennym ddigon o wybodaeth i ganfod y gyrchfan derfynol. Cynhwysir yr holl wybodaeth sydd gennym, ac mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallant.

Pam mae fy awdurdod lleol yn allforio ailgylchu?

Mae deunydd ailgylchadwy yn adnodd, a gellid bod galw am yr adnodd hwnnw o gwmpas y byd. Gall awdurdodau lleol, broceriaid neu gyfleusterau trin gwastraff allforio deunyddiau gwastraff ailgylchadwy i gwrdd â’r galw hwnnw a chael y pris gorau am eu deunyddiau, cyn belled â’u bod yn cwrdd â’r safonau ansawdd gofynnol ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae ymchwil WRAP yn dangos y gellir gwneud arbedion CO2e trwy ailgylchu deunyddiau yn hytrach na’u hanfon i dirlenwi a defnyddio deunydd crai – hyd yn oed os caiff y deunyddiau hynny eu cludo dramor. Yn aml, caiff deunyddiau eu hanfon i wledydd y mae’r Deyrnas Unedig yn mewnforio nwyddau ganddi. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod allforio yn opsiwn cynaliadwy’n amgylcheddol, ond mae union natur y budd yn dibynnu ar beth sy’n cael ei wneud â’r deunydd eilgylch (h.y. beth mae’n ei ddisodli). Mae hyn yn bwysicach na’r allyriadau cludo. Nid yw’r ymchwil yn gwneud unrhyw asesiad o’r buddion cymharol o ailgylchu i farchnadoedd domestig yn unig yn hytrach nag i wledydd eraill.

Sut mae darganfod beth alla’ i ei ailgylchu yn fy ardal leol?

Ewch i’r wefan www.recycleforwales.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1 i ddarganfod beth y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal chi.

Roeddwn i’n meddwl bod fy ailgylchu yn cael ei anfon dramor – pam ydych chi’n dweud ei fod yn aros yng Nghymru?

Mae Fy Ailgylchu Cymru yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ar gael. Weithiau bydd awdurdodau lleol yn gwerthu ailgylchu i gwmni yng Nghymru, ac mae’r cwmni hwnnw’n ei allforio. Mewn rhai achosion, nid oes gwybodaeth ar gael am beth sy’n digwydd iddo wedi iddo gael ei werthu o fewn Cymru. Os felly, nodir y lleoliad hysbys diwethaf, h.y. Cymru. Os yw gwybodaeth ar gael sy’n dangos allforio’r ailgylchu, caiff yr wybodaeth honno ei chynnwys, a nodir ‘anhysbys’ os nad yw’n hysbys pa wlad yw’r gyrchfan derfynol.

Pam mae’r siart yn dangos ailgylchu yn mynd i Tsieina, pan mae gan Tsieina waharddiad ar fewnforio ailgylchu?

Cafodd y rhan fwyaf o ddata cyfredol Fy Ailgylchu Cymru ei adrodd cyn i’r gwaharddiad ddod i rym.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y siartiau llinol a logarithmig? Pam maen nhw mor wahanol?

Mae’r siartiau yn defnyddio’r un data, ond maen nhw’n ei gynrychioli mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r raddfa ar y siart llinol yn mynd i fyny mewn cyfyngau hafal (er enghraifft 10, 20, 30, 40 ayyb), ond nid felly’r raddfa ar y siart logarithmig (er enghraifft 10, 100, 1,000). Mae’r siart llinol yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu dau neu fwy o ganlyniadau, fodd bynnag gan fod y gwahaniaethau rhwng y mwyaf a’r lleiaf yn gallu bod yn sylweddol, gall y canlyniadau isaf fod yn rhy fach i’w gweld; mae’r siart logarithmig yn ei gwneud yn haws i weld yr holl ganlyniadau.

Pa mor aml mae’r safle’n cael ei ddiweddaru?

Caiff Fy Ailgylchu Cymru ei ddiweddaru bob blwyddyn.

Mae gennyf gwestiwn arall, lle alla’ i holi?

I ddarganfod beth y gellir ei ailgylchu yn eich ardal chi, ewch i’r wefan www.recycleforwales.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1 neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am ailgylchu yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Os mai newyddiadurwr ydych chi, ewch i Ganolfan Cyfryngau WRAP neu [Llywodraeth Cymru].