Casnewydd
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Dinas Casnewydd (NCC) yn cynnig gwasanaeth wythnosol wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi brown yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
- ailgylchu sych bob wythnos,
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr, ac eitemau trydanol bach;
- o fag coch y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak); ac
- o fag glas y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cardbord a phapur; a
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr, ac eitemau trydanol bach;
- dillad bob wythnos, mewn bagiau plastig untro y preswylwyr eu hunain (i gadw'r tecstilau'n sych).
Mae NCC hefyd yn casglu:
- gwastraff cewynnau a hylendid bob pythefnos mewn sachau piws untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn;
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos o fin olwynion du; a
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, o fin olwynion gwyrdd gyda chaead oren.
Gall preswylwyr ailgylchu batris yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maesglas, Canolfan Ailddefnyddio Wastesavers, ac mewn llyfrgelloedd lleol, mewn partneriaeth ag ERP UK Ltd.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu eitemau cartref swmpus ar gyfer eitemau mawr, fel dodrefn ac eitemau trydanol mawr. Gall preswylwyr ofyn am gasgliad drwy fynd i wefan Cyngor Dinas Casnewydd. Yr isafswm tâl yw £22 am hyd at dair eitem, a gellir ychwanegu eitemau ychwanegol ar gais, y rhan fwyaf am dâl o £6. Bydd Ganolfan Ailddefnyddio Wastesavers hefyd yn casglu dodrefn o ansawdd da.
Mae un Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y sir ym Maesglas, y gall preswylwyr Casnewydd ei defnyddio am ddim. Rhaid i breswylwyr drefnu apwyntiad cyn iddynt ymweld â'r safle.