Mae MD Recycling Ltd o Crugmor, Aberteifi, yn arbenigwr rheoli gwastraff ac ailgylchu wedi ei leoli yng Ngheredigion, Cymru. Mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol, cwmnïau rheoli gwastraff eraill, cwmnïau adeiladu a dymchwel, cwmnïau preifat ac unigolion ar draws Cymru. Mae'n ailgylchu amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys gwastraff adeiladu a dymchwel, gwastraff gwyrdd, gwastraff pren heb ei halogi, clai a choncrid.