Mae Wessex Water yn darparu gwasanaethau dŵr yfed a charthffosiaeth i ardal fawr o Dde Orllewin Lloegr, yn cynnwys Bryste, y rhan fwyaf o Dorset, Gwlad yr Haf a Wiltshire a rhannau o Swydd Gaerloyw a Hampshire. Fe'i sefydlwyd yn 1973 ac mae'n rhiant-gwmni ar GENeco, sy'n cymryd gwastraff organig a'i droi yn fio-nwy trwy dreulio anaerobig.