Blaenau Gwent
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (BGCBC) yn cynnig gwasanaeth wythnosol wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim, y gellir eu casglu o allfeydd ledled y fwrdeistref. Gall preswylwyr hefyd ddewis defnyddio eu bagiau plastig untro eu hunain yn lle'r bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor;
- ailgylchu sych bob wythnos, naill ai o uned Trolibocs sy’n cynnwys un bocs 40-litr a dau focs 55-litr, neu focsys a bagiau glas ailddefnyddiadwy ar wahân, gan ganiatáu i breswylwyr wahanu eu:
- poteli a jariau gwydr,
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, a photeli, potiau a thybiau plastig, a
- phapur;
- poteli a jariau gwydr,
- cardfwrdd bob wythnos, o fag gwyn mawr ailddefnyddiadwy;
- batris cartref bob wythnos, o fag gwyn bach ailddefnyddiadwy. Gall preswylwyr gasglu bag o’u Hyb Cymunedol agosaf, sydd wedi’i leoli’n ganolog ym mhob llyfrgell leol a reolir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Er bod y bag ar gael, gall preswylwyr dewis i barhau i roi eu hen fatris allan i'w casglu mewn bagiau plastig untro, os oes ganddynt rai i'w defnyddio; ac
- eitemau trydanol bach a thecstilau bob wythnos, mewn bagiau plastig clir ar wahân.
Mae BGCBC hefyd yn casglu:
- nwyddau hylendid amsugnol (AHP) bob wythnos, o sachau melyn untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn;
- gwastraff gardd bob pythefnos, o fag gwyrdd mawr ailddefnyddiadwy; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos, o fin olwynion du neu hyd at bedair sach ddu untro.