Canran ailgylchu
56%
Cyfanswm gwastraff y pen
455kg
Gwastraff gweddilliol y pen
200kg

Gwasanaeth Ailgylchu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (BGCBC) yn cynnig gwasanaeth wythnosol wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.

Mae'n casglu:

  • gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim, y gellir eu casglu o allfeydd ledled y fwrdeistref. Gall preswylwyr hefyd ddewis defnyddio eu bagiau plastig untro eu hunain yn lle'r bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor;
     
  • ailgylchu sych bob wythnos, naill ai o uned Trolibocs sy’n cynnwys un bocs 40-litr a dau focs 55-litr, neu focsys a bagiau glas ailddefnyddiadwy ar wahân, gan ganiatáu i breswylwyr wahanu eu:
     
    • poteli a jariau gwydr,
       
    • caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, a photeli, potiau a thybiau plastig, a
       
    • phapur;
       
  • cardfwrdd bob wythnos, o fag gwyn mawr ailddefnyddiadwy;
     
  • batris cartref bob wythnos, o fag gwyn bach ailddefnyddiadwy. Gall preswylwyr gasglu bag o’u Hyb Cymunedol agosaf, sydd wedi’i leoli’n ganolog ym mhob llyfrgell leol a reolir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Er bod y bag ar gael, gall preswylwyr dewis i barhau i roi eu hen fatris allan i'w casglu mewn bagiau plastig untro, os oes ganddynt rai i'w defnyddio; ac
     
  • eitemau trydanol bach a thecstilau bob wythnos, mewn bagiau plastig clir ar wahân.

Mae BGCBC hefyd yn casglu:

  • nwyddau hylendid amsugnol (AHP) bob wythnos, o sachau melyn untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn;
     
  • gwastraff gardd bob pythefnos, o fag gwyrdd mawr ailddefnyddiadwy; a
     
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos, o fin olwynion du neu hyd at bedair sach ddu untro.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff cartref swmpus ar gyfer eitemau mawr. I ddarganfod faint mae’r gwasanaeth hwn yn ei gostio, neu i drefnu casgliad, dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn rheoli dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref  yn y sir. Dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor i wirio amseroedd agor, rheolau safle, a oes angen trwydded arnynt i fynychu mewn cerbyd mawr, ac a oes angen iddynt drefnu apwyntiad cyn iddynt ymweld â safle.

Ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn yr ardal

New Vale Recycling Centre, Ebbw Vale

New Vale Recycling Centre, Ebbw Vale
51.7517, -3.18262

Roseheyworth Recycling Centre, Abertillery

Roseheyworth Recycling Centre, Abertillery
51.742243997614, -3.1507051319229

Cafodd cyfanswm o
Holl ddeunyddiau
18k
tunnell o wastraff ei ailgylchu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
£1m
ei arbed gan ailgylchu yn lle ei gwaredu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
5k
tunnell o allyriadau CO2 ei osgoi

5 Cyrchfan ailgylchu mwyaf y DU

1
Biogen
Aberdare, Wales
1,323t
Deunyddiau Organig
2
Palm Paper Ltd
Wiggenhall St Germans, England
907t
Papur
3
Reuse Glass Uk Ltd
Wakefield, England
872t
Gwydr
4
Cowbridge Compost Ltd
Cowbridge, Wales
851t
Deunyddiau Organig
5
580t
Deunyddiau Organig

I ble mae ailgylchu Cymru yn mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd)

Deunyddiau Organig

Organic waste icon

Y swm a ailgylchwyd
3,660t
CO2 osgowyd
183t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£413,626
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Gwydr

Glass icon

Y swm a ailgylchwyd
1,345t
CO2 osgowyd
1,015t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£151,984
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Metel

Metal icon

Y swm a ailgylchwyd
724t
CO2 osgowyd
1,839t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£81,813
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Papur

Paper and cardboard icon

Y swm a ailgylchwyd
2,381t
CO2 osgowyd
1,302t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£269,026
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
56%

Cyrchfannau

Plastig

Plastic icon

Y swm a ailgylchwyd
793t
CO2 osgowyd
425t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£89,568
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
2%

Cyrchfannau

Tecstilau

Textil icon

Y swm a ailgylchwyd
45t
CO2 osgowyd
261t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£5,065
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau