Bro Morgannwg
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bro Morgannwg (VoGC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae’n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
- ailgylchu sych bob wythnos,
- o gadi llwyd ar gyfer poteli a jariau gwydr,
- o fag glas ailddefnyddiadwy ar gyfer caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak),
- o fag oren ailddefnyddiadwy ar gyfer cardfwrdd a phapur brown,
- o fag gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer papur, ac
- o fag gwyn bach ailddefnyddiadwy ar gyfer batris o'r cartref.
- o gadi llwyd ar gyfer poteli a jariau gwydr,
Gall preswylwyr ailgylchu eitemau trydanol bach trwy eu gosod yn rhydd ar ben un o'u cadis neu fagiau. Ni ddylent eu rhoi mewn unrhyw fath o gynhwysydd, gan gynnwys unrhyw fagiau plastig untro.
Mae VoGC hefyd yn casglu:
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd o fagiau gwyrdd ailddefnyddiadwy, gan breswylwyr sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth y codir tâl amdano. Gall preswylwyr sydd wedi cofrestru ofyn am gasgliad gwastraff gardd rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Os yw'n well gan drigolion beidio â thanysgrifio i'r gwasanaeth casglu, gallant fynd â'u gwastraff gardd i'w Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol am ddim neu ei gompostio gartref; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos. Gall preswylwyr roi hyd at dri sach ddu untro allan bob tair wythnos.