Caerdydd
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Erbyn diwedd mis Mawrth 2025, bydd CC yn casglu deunydd ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân o bob cartref, ar wahân i'r cartrefi hynny sydd ar hyn o bryd yn defnyddio biniau/mannau cymunedol i gyflwyno eu ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu. Mae treialon ar y gweill i ddatblygu system ailgylchu newydd ar gyfer y cartrefi hyn.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi brown yn defnyddio bagiau leinio cadi gwyrdd a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a cartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak), bob wythnos, o fag coch ailddefnyddiadwy;
- cardbord a phapur bob wythnos, o fag glas ailddefnyddiadwy; a
- photeli a jariau gwydr bob pythefnos, o gadi glas.
Mae CC hefyd yn casglu:
- gwastraff hylendid bob pythefnos, mewn sachau porffor untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn;
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, o fin olwynion gwyrdd neu fag(iau) gwyn ailddefnyddiadwy; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos, o fin olwynion du, neu mewn hyd at dri sach du untro ar gyfer preswylwyr sydd heb fin olwynion.