Caerffili
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CCBC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd un ffrwd ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu bod yr holl ailgylchu sych yn cael ei gymysgu mewn un cynhwysydd.
Mae’n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
- ailgylchu sych bob wythnos, o fin neu focs brown, sy’n cynnwys:
- poteli a jariau gwydr,
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel,
- poteli, potiau a thybiau plastig,
- cardbord, a
- phapur;
Mae CCBC hefyd yn casglu:
- gwastraff gardd bob wythnos, o fag gwyrdd ailddefnyddiadwy;
- gwastraff hylendid, fel bagiau colostomi/stoma, padiau anymataliaeth oedolion, menig plastig a ffedogau tafladwy, bob pythefnos o fin, o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos, o fin gwyrdd (neu ddu).