Casnewydd
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth ailgylchu
Mae Cyngor Dinas Casnewydd (NCC) yn cynnig gwasanaeth wythnosol wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi brown yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
- ailgylchu sych bob wythnos,
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr, ac eitemau trydanol bach,
- o fag coch ailddefnyddiadwy ar gyfer caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak), ac
- o fag glas ailddefnyddiadwy ar gyfer cardbord a phapur; a
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr, ac eitemau trydanol bach,
- dillad bob wythnos, mewn bagiau plastig untro y preswylwyr eu hunain (i gadw'r tecstilau'n sych).
Mae NCC hefyd yn casglu:
- gwastraff cewynnau a hylendid bob pythefnos mewn sachau piws untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn;
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos o fin olwynion du; a
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, o fin olwynion gwyrdd gyda chaead oren.
Gall preswylwyr ailgylchu batris yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maesglas, Canolfan Ailddefnyddio Wastesavers, ac mewn llyfrgelloedd lleol, mewn partneriaeth ag ERP UK Ltd.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu eitemau cartref swmpus ar gyfer eitemau mawr. I gael gwybod faint mae’r gwasanaeth hwn yn ei gostio, neu i archebu casgliad, dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor. Bydd Canolfan Ailddefnyddio Wastesavers hefyd yn casglu dodrefn o ansawdd da.