Ceredigion
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Sir Ceredigion (CCC) yn darparu gwasanaeth casglu cymysg wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau ailgylchadwy 'sych' wedi'u cyfuno mewn un cynhwysydd, hynny yw, metelau, plastigion, cardfwrdd a phapur.
Mae'n casglu:
-
gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd gan ddefnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
-
ailgylchu sych bob wythnos, mewn sachau clir untro, ar gyfer:
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel,
- poteli, potiau a thybiau plastig,
- cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak,
- cardfwrdd,
- papur, a
- bagiau a deunydd lapio plastig; a
- photeli a jariau gwydr bob tair wythnos, o focs du.
Mae CCC hefyd yn casglu:
- cynnyrch hylendid amsugnol (AHP) bob pythefnos, mewn sachau porffor untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn;
- gwastraff gardd bob pythefnos, o sach werdd untro. Gall preswylwyr brynu cyflenwad o sachau gwastraff gardd o'u llyfrgell leol a gofyn am gasgliad trwy gysylltu â CLIC; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos, o gynhwysydd addas a diogel a gyflenwir gan breswylwyr, megis sachau du untro neu finiau gwastraff.
Gall preswylwyr fynd ag unrhyw hen eitemau trydanol bach a batris cartref i'w llyfrgell leol i gael eu hailgylchu.