Conwy
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CCBC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae’n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi du gyda chaead gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
- ailgylchu sych bob wythnos, naillai o uned Trolibocs sy’n cynnwys tri bocs, neu fagiau ailddefnyddiadwy a bocs, sy’n caniatáu i breswylwyr wahanu eu:
- poteli a jariau gwydr a chardfwrdd,
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak), a
- phapur;
- poteli a jariau gwydr a chardfwrdd,
- batris o’r cartref bob wythnos, o fag gwyn ailddefnyddiadwy;
- eitemau trydanol bach bob pythefnos, mewn sachau pinc untro;
- tecstilau bob pythefnos, mewn sachau piws untro; a
- phodiau coffi bob pythefnos, mewn sachau gwyrdd untro.
Mae CCBC hefyd yn casglu:
- nwyddau hylendid amsugnol, fel clytiau tafladwy ac eitemau anymataliaeth, bob wythnos mewn sachau untro o'r tu mewn i gadi, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim yma;
- gwastraff gardd bob pythefnos, o fin ar olwynion brown, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy yma; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pedair wythnos, o fin ar olwynion du 240-litr.