Merthyr Tudful
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (MTCBC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae'n casglu:
-
gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi glas yn defnyddio bagiau leinio cadi a darperir gan y Cyngor am ddim; ac
-
ailgylchu sych bob wythnos,
-
o sach glas ailddefnyddiadwy ar gyfer caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a thiwbiau past dannedd;
-
o focs du (neu wyrdd hŷn) ar gyfer poteli a jariau gwydr;
-
o focs du (neu wyrdd hŷn) ar gyfer cardfwrdd a chartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak; ac
-
o focs du (neu wyrdd hŷn) ar gyfer papur.
-
Gall preswylwyr ailgylchu eitemau trydanol bach a thecstilau drwy eu rhoi mewn bagiau plastig untro ar wahân a’u gosod wrth ymyl eu cynwysyddion ailgylchu eraill.
Mae MTCBC hefyd yn casglu:
-
gwastraff o’r ardd pob pythefnos rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd o fag gwyrdd ailddefnyddiadwy; a
-
gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos o fin olwynion du.