Rhondda Cynon Taf
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCTCBC) yn darparu gwasanaeth casglu cymysg wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau ailgylchadwy 'sych' wedi'u cyfuno mewn un cynhwysydd, hynny yw, metelau, plastigion, cardbord a phapur.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gan ddefnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
- ailgylchu sych bob wythnos, mewn sachau clir untro, ar gyfer:
- poteli a jariau gwydr,
- caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel,
- poteli, potiau a thybiau plastig,
- cartonau bwyd a diod fel Tetra Pak,
- cardfwrdd, a
- phapur.
Mae RCTCBC hefyd yn casglu:
- cewynnau bob wythnos, mewn sachau porffor untro, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn;
- gwastraff gardd bob wythnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd (yna ar gais rhwng Rhagfyr a Chwefror), o fagiau ailddefnyddiadwy, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos, o fin olwynion gwyrdd neu mewn sachau du untro.