Canran ailgylchu
68%
Cyfanswm gwastraff y pen
425kg
Gwastraff gweddilliol y pen
138kg

Gwasanaeth Ailgylchu

Mae Cyngor Sir Ddinbych (DCC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.

Mae’n casglu:

  • gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi oren yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
     
  • ailgylchu sych bob wythnos, naillai o uned Trolibocs sy’n cynnwys tri bocs, neu fagiau ailddefnyddiadwy, sy’n caniatáu i breswylwyr wahanu eu:
     
    • poteli a jariau gwydr,
       
    • caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak), a
       
    • phapur;
       
  • cardfwrdd o fag glas ailddefnyddiadwy;
     
  • eitemau trydanol bach bob wythnos, pan fydd preswylwyr yn gosod eitemau yn rhydd ar ben eu Trolibocs neu un o'u bagiau ailddefnyddiadwy
     
  • batris o’r cartref bob wythnos, o gwdyn pinc ailddefnyddiadwy wedi'u clipio ar handlen eu Trolibocs, neu mewn bag plastig untro, wedi'i glymu'n ddiogel, ac yna'n cael ei osod ar ben un o'u bagiau ailddefnyddiadwy; a
     
  • thecstilau bob pedair wythnos, mewn sachau wen untro. Darperir y sachau a'r gwasanaeth gan bartner DCC, Co-Options Social Enterprise.

Mae DCC hefyd yn casglu:

  • nwyddau hylendid amsugnol, fel clytiau ac eitemau anymataliaeth, bob wythnos o gadi du gyda chaead piws, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim yma;
     
  • gwastraff gardd bob pythefnos, naill ai o fin ar olwynion gwyrdd 140-litr neu sach(au) dympi gwyrdd, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy yma; a
     
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pedair wythnos, naill ai o fin ar olwynion du neu las 240-litr, neu bob wythnos mewn sach binc untro. Gall preswylwyr sy'n defnyddio sachau pinc roi un sach wedi'i llenwi allan bob wythnos. Ar eu diwrnod casglu, maent yn cyflwyno eu sach y tu mewn i fag du ailddefnyddiadwy.

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus ar gyfer eitemau mawr. I ddarganfod faint mae’r gwasanaeth hwn yn ei gostio, neu i drefnu casgliad, dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn rheoli pum Parc Ailgylchu a Gwastraff parhaol. Rhaid i breswylwyr drefnu apwyntiad cyn iddynt ymweld â safle. Mae hefyd yn rhedeg Gwasanaeth Ailgylchu Dros Dro i breswylwyr Dyffryn Dyfrdwy sydd ar agor ar y pedwar bore Sadwrn cyntaf o bob mis, bob yn ail rhwng Corwen a Llangollen. Gall preswylwyr Sir Ddinbych sy'n byw yn Nyffryn Dyfrdwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn yr ardal

Denbigh Recycling and Waste Park

Denbigh Recycling and Waste Park
53.1498, -3.1964

Recycling at Green Lane Car Park, Corwen

Recycling at Green Lane Car Park, Corwen
52.9912, -3.37924

Ruthin Recycling and Waste Park

Ruthin Recycling and Waste Park
53.122048228696, -3.3121007723573

Rhyl Recycling and Waste Park

Rhyl Recycling and Waste Park
53.3092, -3.49635

Recycling at Llangollen Pavilion

Recycling at Llangollen Pavilion
52.9736, -3.17544

Cafodd cyfanswm o
Holl ddeunyddiau
28k
tunnell o wastraff ei ailgylchu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
£3m
ei arbed gan ailgylchu yn lle ei gwaredu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
13k
tunnell o allyriadau CO2 ei osgoi

5 Cyrchfan ailgylchu mwyaf y DU

1
Flintshire County Council
Greenfield, Wales
5,513t
Deunyddiau Organig
2
Biogen
St Asaph, Wales
3,616t
Deunyddiau Organig
3
Ballast Phoenix Ltd
Runcorn, England
3,478t
Lludw Gwaelod Llosgydd
4
SAICA Paper UK Ltd
Partington, England
1,875t
Papur
5
DS Smith
Sittingbourne, England
1,337t
Papur

I ble mae ailgylchu Cymru yn mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd)

Deunyddiau Organig

Organic waste icon

Y swm a ailgylchwyd
10,331t
CO2 osgowyd
517t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£1,167,382
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Gwydr

Glass icon

Y swm a ailgylchwyd
2,140t
CO2 osgowyd
1,615t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£241,777
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Metel

Metal icon

Y swm a ailgylchwyd
1,692t
CO2 osgowyd
4,298t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£191,214
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
11%

Cyrchfannau

Papur

Paper and cardboard icon

Y swm a ailgylchwyd
4,693t
CO2 osgowyd
2,567t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£530,291
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
1%

Cyrchfannau

Plastig

Plastic icon

Y swm a ailgylchwyd
1,463t
CO2 osgowyd
784t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£165,343
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
19%

Cyrchfannau

Tecstilau

Textil icon

Y swm a ailgylchwyd
438t
CO2 osgowyd
2,553t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£49,499
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
2%

Cyrchfannau