Sir Fynwy
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Sir Fynwy (MCC) yn cynnig gwasanaeth wythnosol wedi’i ddidoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae'n casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi glas yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
- ailgylchu sych bob wythnos,
- o focs gwyrdd ailddefnyddiadwy ar gyfer poteli a jariau gwydr,
- o fag porffor ailddefnyddiadwy ar gyfer caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak); ac
- o fag coch ailddefnyddiadwy ar gyfer cardfwrdd a phapur.
- o focs gwyrdd ailddefnyddiadwy ar gyfer poteli a jariau gwydr,
Mae MCC hefyd yn casglu:
- cewynnau a gwastraff hylendid bob pythefnos mewn sachau melyn untro. Nid oes angen i breswylwyr gofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim hwn a gallant gasglu sachau melyn o'u Hyb Cymunedol lleol;
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr o fin olwynion gwyrdd, o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos mewn hyd at ddwy sach ddu untro.