Sir y Fflint
Dewis blwyddyn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Cyngor Sir y Fflint (FCC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.
Mae's casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
- ailgylchu sych bob wythnos:
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr,
- o fag arian ailddefnyddiadwy ar gyfer caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak),
- o fag glas ailddefnyddiadwy ar gyfer cardfwrdd a phapur; a
- batris o'r cartref, mewn bag plastig untro clir, neu o dwb plastig ailddefnyddiadwy neu unrhyw gynhwysydd arall sy'n ei gwneud yn glir i'r criwiau ei fod yn cynnwys batris i'w casglu.
- o focs gwyrdd ar gyfer poteli a jariau gwydr,
Mae FCC hefyd yn casglu:
- clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol (AHP) bob wythnos, o focs oren ailddefnyddiadwy, os yw preswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn;
- gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a chanol mis Rhagfyr o fin brown, os yw preswylwyr wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth y codir tâl amdano; a
- gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos o fin du.