Canran ailgylchu
64%
Cyfanswm gwastraff y pen
532kg
Gwastraff gweddilliol y pen
192kg

Gwasanaeth Ailgylchu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (WCBC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.

Mae’n casglu:

  • gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi llwyd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim; ac
     
  • ailgylchu sych bob wythnos, naill ai o uned Trolibocs sy’n cynnwys tri bocs, neu focs du, bocs gwyrdd a bag glas ailddefnyddiadwy, gan ganiatáu i breswylwyr wahanu eu:
     
    • poteli a jariau gwydr,
    • caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel,
    • poteli, potiau a thybiau plastig,
    • cardfwrdd, a
    • phapur.

Mae WCBC hefyd yn casglu:

  • gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd (ac unwaith y mis rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror), o fin gwyrdd, o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn; a
     
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pythefnos, o fin du neu las.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth casglu eitemau swmpus o'r cartref ar gyfer eitemau mawr. I gael gwybod faint mae’r gwasanaeth hwn yn ei gostio, neu i archebu casgliad, dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn rheoli tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Nid oes angen i breswylwyr drefnu apwyntiad cyn iddynt ymweld â safle.

Mae’r Ganolfan Ailgylchu yng Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam (a elwir hefyd yn Lôn y Bryn) yn gartref i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos. Gall preswylwyr roi eitemau i'r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o'r tair Canolfan Ailgylchu yn Wrecsam.

Ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn yr ardal

Wrexham Industrial Estate Household Recycling Centre

Wrexham Industrial Estate Household Recycling Centre
53.0482, -2.91407

Brymbo Household Recycling Centre

Brymbo Household Recycling Centre
53.0658, -3.04478

Plas Madoc Household Recycling Centre

Plas Madoc Household Recycling Centre
52.9834, -3.06272

Cafodd cyfanswm o
Holl ddeunyddiau
46k
tunnell o wastraff ei ailgylchu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
£5m
ei arbed gan ailgylchu yn lle ei gwaredu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
20k
tunnell o allyriadau CO2 ei osgoi

5 Cyrchfan ailgylchu mwyaf y DU

1
3C Waste Limited
Abergele, Wales
8,963t
Deunyddiau Organig
2
Tudor Griffiths Ltd
Ellesmere, England
4,378t
Rwbel ac agregau
3
4,134t
Rwbel ac agregau
4
Harpers Norbord Ltd
Stirling, Scotland
3,772t
Pren
5
Ballast Phoenix Ltd
Wakefield, England
3,137t
Lludw Gwaelod Llosgydd

I ble mae ailgylchu Cymru yn mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd)

Deunyddiau Organig

Organic waste icon

Y swm a ailgylchwyd
12,735t
CO2 osgowyd
637t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£1,439,105
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Gwydr

Glass icon

Y swm a ailgylchwyd
3,436t
CO2 osgowyd
2,594t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£388,288
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Metel

Metal icon

Y swm a ailgylchwyd
3,887t
CO2 osgowyd
9,874t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£439,275
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
42%

Cyrchfannau

Papur

Paper and cardboard icon

Y swm a ailgylchwyd
3,822t
CO2 osgowyd
2,091t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£431,891
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
2%

Cyrchfannau

Plastig

Plastic icon

Y swm a ailgylchwyd
2,034t
CO2 osgowyd
1,090t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£229,827
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Tecstilau

Textil icon

Y swm a ailgylchwyd
490t
CO2 osgowyd
2,857t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£55,393
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
61%

Cyrchfannau