Budd ailgylchu

Y swm a ailgylchwyd
2,384t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£269,350
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
3%

Amcangyfrifir fod carpedi’n cyfrif am oddeutu pump y cant o’r holl ddeunydd (yn ôl pwysau) sy’n cyrraedd canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (household waste recycling centres/HWRC) yn y Deyrnas Unedig. Cynhyrchir mwy na 400,000 o dunelli o wastraff carpedi bob blwyddyn. Mae bron i bob un o awdurdodau lleol Cymru’n cynnig pwynt gwaredu ar wahân yn eu canolfannau ailgylchu i ddal a dargyfeirio’r gwastraff hwn o dirlenwi. 

Cafodd bron i 160,000 o dunelli o wastraff carpedi ei ddargyfeirio o dirlenwi yn y Deyrnas Unedig yn 2019, ac ailgylchwyd neu ailddefnyddiwyd mwy na 60,000 o dunelli ohono. Aiff y gweddill i droi gwastraff yn ynni. 

Mae’r amrywiaeth o ddeunyddiau a mathau o garped a gynhyrchir yn gofyn am gyfuniad o wahanol atebion ailgylchu. Mae bron 60 y cant o’r carpedi a gesglir mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn gymysgedd o ddeunyddiau synthetig, neilon, polyester a pholypropylen yn aml; mae 36 y cant yn wlân; a’r 14 y cant sy’n weddill yn deils carped neilon a bitwmen. 

Y ffordd fwyaf poblogaidd o ddefnyddio carpedi synthetig eilgylch yw fel arwyneb mewn canolfannau marchogaeth. I wneud hyn, caiff y carped ei rwygo’n fân a’i gymysgu â thywod i greu deunydd llorio clustogaidd sy’n lleihau gwrthdrawiad â’r llawr i goesau ceffylau wrth ymarfer. 

Gellir ailgylchu’r ffibrau mewn carpedi gwlân at amrywiaeth o ddefnyddiau. O’u hechdynnu o’r deunydd, yna eu cyfuno â deunyddiau eraill, cynhyrchir nwyddau inswleiddio gwres a sŵn newydd. Defnyddir y ffibrau wedi’u hechdynnu hefyd i greu isgarpedi newydd. 

Mae carpedi gwlân sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes yn gyfrwng tyfu defnyddiol, fel matiau tyfu ar gyfer planhigion bach a thoeau gwyrdd. Gan fod llawer o nitrogen ynddo, mae’r carped hwn yn ddisodliad cynaliadwy neu’n ychwanegiad at fawn yn y nwyddau hyn. 

Mewn rhai achosion, gellir ailddefnyddio carpedi wedi’u rholio neu eu ffitio trwy eu torri i lawr i’w defnyddio mewn ystafelloedd llai. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ailddefnyddio’n digwydd gyda theils carped gan eu bod yn haws i’w hadfer a’u graddio, yn ogystal â bod yn haws i’w gosod ar lawr newydd. Swyddfeydd ac adeiladau masnachol eraill yw prif ddefnyddwyr teils carped, felly mae’r rhan fwyaf o gynlluniau ailddefnyddio carped yn tueddu i weithio gyda busnesau yn hytrach na chwsmeriaid domestig.


I ble mae carpedi i’w hailgylchu’n mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd) - 2022/23

Prif gyrchfannau ailgylchu’r DU

Gwlad Tunelli
England 1,432t
Wales 870t
Cwmni Gwlad Tunelli
Equestrian Surfaces Ltd England 732t
Potters Waste Management Wales 355t
Eco2 Enterprises LLP England 258t
Econpro Wales 210t
unspecified Wales 189t
Innovate Recycle Ltd England 133t
Carpet Gallop England 88t
unspecified England 55t
Endurmeta Ltd Limited Wales 39t
AWD Group Wales 38t
LaFarge Cement UK Plc Wales 33t
Mid UK Recycling Ltd England 32t

Prif gyrchfannau ailgylchu’r byd

Cwmni Gwlad Tunelli
unspecified unspecified 82t