Batris
Mae batris o bob lliw a llun i’w cael, ac maen nhw’n dod gydag amrywiaeth o heriau ailgylchu. Mae’r rhan fwyaf o aelwydydd angen cael gwared â batris cludadwy ar gyfer defnyddwyr yn rheolaidd, yn cynnwys AA, AAA a meintiau eraill a ddefnyddir mewn offer trydanol ac electronig. Ychydig yn llai aml, rydym hefyd angen cael gwared â batris ailwefradwy (lithiwm-ïon) a batris cerbydau.
Ym mhob achos, mae cemeg y batris hyn yn golygu bod angen eu hailgylchu pan bynnag fo’n bosibl, am eu bod yn cael eu gwneud gan ddefnyddio elfennau, yn cynnwys metelau trymion fel plwm, mercwri a sinc. Mae’r deunyddiau hyn yn wenwynol i’r amgylchedd ac i’n hiechyd felly gall fod yn beryglus i’w rhoi yn ein gwastraff cyffredinol a dylai aelwydydd ddefnyddio’r amrywiaeth o opsiynau casglu ailgylchu sydd ar gael.
Mae rheoliadau batris gwastraff y Deyrnas Unedig yn nodi’r gofynion i’r cwmnïau sy’n cynhyrchu batris ddarparu arian i’w hadennill. Mae’r rheoliadau hefyd yn golygu bod manwerthwyr mawr sy’n gwerthu batris yn gorfod darparu man casglu ar eu cyfer er mwyn eu dychwelyd i’w hailgylchu.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnwys casgliadau batris cludadwy ar gyfer defnyddwyr yn eu casgliadau ar ymyl y ffordd, ond mae gofyn ichi wirio hyn gyda’ch cyngor yn gyntaf. Mae’r holl awdurdodau lleol yn darparu man casglu ar eu cyfer mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yn ogystal ag ar gyfer batris cerbydau a rhai ailwefradwy. Mae’r data a gyflwynir yma yn trafod yn benodol y batris a gesglir gan gynghorau.
Batris cludadwy
Gwerthir oddeutu 40,000 o dunelli o fatris cludadwy yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd cesglir ychydig yn llai na 18,000 o dunelli i’w hailgylchu. Batris alcalïaidd/sinc-carbon a ddefnyddir mewn teclynnau llaw electronig yw tua thri chwarter o’r batris hyn. Mae batris cell botwm (crwn) wedi’i gwneud gyda mercwri, arian-ocsid neu sinc ac fe’u defnyddir mewn teclynnau llai.
Cesglir batris ailwefradwy, fel rhai nicel-metel hydrid, nicel-cadmiwm neu lithiwm-ïon, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o declynnau electronig a geir yn y cartref hefyd, er pan fo’n bosibl, mae’n fanteisiol gallu casglu’r rhain ar wahân.
Unwaith y cânt eu casglu, anfonir y rhain i gyfleusterau i’w didoli gydag offer arbenigol sy’n gwybod union fath cemegol y batris gyda lefel uchel o gywirdeb. Caiff y batris hyn wedyn eu storio ar wahân. Mae angen gofal yn enwedig wrth drin batris lithiwm-ïon, sy’n gysylltiedig yn arbennig gyda pherygl tân.
Caiff pob math o fatri wedyn ei anfon i gyfleusterau ailbrosesu arbenigol, i echdynnu’r deunyddiau y gellir eu hadennill a chael gwared â’r gweddillion yn ddiogel.
Caiff y batris mwyaf cyffredin, rhai alcalïaidd/sinc-carbon, eu rhwygo’n fân i gael y metel, plastigion a phapur allan o’u creiddiau. Caiff batris alcalïaidd eu trin mewn odynnau cylchdro tymheredd uchel i echdynnu’r sinc-ocsid, a gaiff wedyn ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd diwydiannol.
Caiff batris lithiwm, nicel-cadmiwm a nicel-metel hydrid eu trin mewn unedau anweddu gwactod thermal ar dymheredd uchel, sy’n anweddu ac yna’n cyddwyso’r metelau gwerthfawr.
Yn yr un modd, caiff mercwri o fatris cell mercwri ei drin ar dymheredd uchel, i ddadlygru rhan dur y batri a gwahanu’r mercwri.
Batris cerbydau
Caiff batris a ddefnyddir mewn cerbydau eu gwneud o blwm deuocsid ac asid sylffwrig, yn ogystal â symiau bychain o arian, casynau plastig caled a dŵr. Mae’r deunyddiau hyn yn niweidiol ond gellir eu hadennill i’w defnyddio mewn ffyrdd eraill gwerthfawr.
Mae cyflawni hyn yn golygu dilyn proses sy’n gwasgu’r batris, gan greu sylwedd fel slyri, sydd wedyn yn cael triniaeth reoledig i wahanu’r amrywiol elfennau. Caiff y dŵr asidig driniaeth gemegol i buro’r dŵr; caiff y plwm a’r arian ei doddi i’w ddefnyddio mewn batris newydd; caiff y plastig ei droi’n belenni i’w fwrw yn gasynau newydd ar gyfer batris ceir yn nes ymlaen.