Deunyddiau Organig
Mae gwastraff organig yn cynnwys gwastraff gardd, gwastraff bwy a mathau gwahanol o wastraff bioddiraddadwy. Fuasai’n bosibl osgoi llawer o hyn - gwastraff bwyd yn arbennig. Mae 4.4 miliwn tunnell o wastraff a fyddai’n bosibl ei arbed yn cael ei thaflyd u ffwrdd, sydd yn costio £470 y teulu, ar gyfartaledd. Mae’r gwastraff yma yn creu 19 miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid, gymaint ag sydd yn cael ei greu gan un allan o bob pedwar car ar ffyrdd y DU.
Mae’n bosibl lleihau'r swm sydd yn cael ei wastraffu drwy ddysgu mwy am wastraff bwyd, sut i wneud i fwyd barhau yn hirach a sut i cael gwared i wastraff bwyd mewn ffordd gyfrifol.
Mae ffigyrau WRAP yn dangos bod, yn y DU, mae 95 y cant o awdurdodau lleol yn gweithredu casgliad gwastraff gardd ochr-y-ffordd. Yng Nghymru, mae bob awdurdod lleol yn darparu'r gwasanaeth yma, ond mae 18 y cant yn codi tâl amdano. Yn nhermau casglu gwastraff bwyd, mae tua 93 y cant o gartrefi Cymreig efo mynediad i gasgliad gwastraff bwyd, yn wahanol i’r cyfartaledd yn y DU, sef 50 y cant.
Pan mae’n cael ei gasglu er mwyn ailgylchu mae gwastraff organig efo nifer o ddefnyddiau posibl. Mae compostio’r gwastraff yn creu nifer o gynhyrchion defnyddiol fel gwrtaith-bio a nwy-bio, drwy compostio-mewn-pibell, compostio gwynt neu dreulio anaerobig (ble mae deunydd organig yn dadelfennu mewn cynhwysydd heb ocsigen). Mae ailgylchu un dunnell o wastraff bwyd drwy dreulio anaerobig yn creu 300kWh o egni - digon rhoi pŵer i 5,500 iPad.
Fedrwch ddysgu mwy am sut i ailgylchu gwastraff organig, fel gwastraff bwyd a gwastraff gardd, ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
Proses ailgylchu
Y ffordd fwyaf arferol o drin ein gwastraff bwyd yw proses o’r enw ‘treulio anaerobig’. Mae micro-organebau o’r enw ‘methanogenau’ yn torri gwastraff bwyd i lawr o fewn tanc
Mae’n cynhyrchu bio-nwy, a gaiff ei gasglu a’i ddefnyddio i gynhyrchu ‘ynni gwyrdd’ sy’n pweru cartrefi a chymunedau ledled y wlad
Mae hefyd yn creu biowrtaith a ellir ei ddefnyddio mewn ffermio ac ar gyfer adfywio tir
Caiff gwastraff gardd ei gludo i gyfleuster compostio. Caiff ei ddidoli a’i sgrinio, a chaiff unrhyw beth na ellir ei gompostio ei dynnu allan
Caiff ei rwygo a’i osod allan mewn pentwr hir o’r enw rhes gompost i ddadelfennu a throi’n gompost
Caiff y rhesi compost eu troi i ganiatáu i fwy o ocsigen gyrraedd y cymysgedd, sy’n annog bacteria a ffwng – a elwir yn ‘ficro-organebau’ – dyfu, sy’n cyflymu’r broses gompostio
Mae’n cyrraedd tymheredd o tua 60 gradd Celsius i ladd unrhyw bathogenau niweidiol, chwyn a heintiau planhigion. Unwaith ei bydd wedi torri i lawr yn llwyr, caiff y compost ei ddefnyddio:
- gan ffermwyr a thyfwyr i gynhyrchu bwyd
- mewn parciau a gerddi cyhoeddus
- fel cyflyrydd pridd mewn gerddi domestig