Budd ailgylchu

Y swm a ailgylchwyd
3,583t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£404,841
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

O’i gymharu â’r rhan fwyaf o nwyddau a deunyddiau rydym yn cael gwared â nhw, mae gan ddodrefn fywyd hir fel arfer. Y rhan fwyaf o droeon pan nad oes angen darn o ddodrefn arnom mwyach, nid yw’n mynd yn wastraff, mae’n berffaith iawn i’w ailddefnyddio ar ei ffurf bresennol a chaiff ei werthu neu ei basio ymlaen i rywun arall. 

Pan nad yw hyn yn bosibl, rydym yn cael gwared â’r dodrefnyn trwy fynd ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu caiff ei gasglu gan wasanaeth casglu gwastraff swmpus y cyngor. Caiff oddeutu 700,000 o dunelli o ddodrefn ei gasglu fel hyn gan awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig, y rhan fwyaf ohono wedi cael ei gludo i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Y prif eitemau a gaiff eu taflu yw soffas, wardrobau, drors, cadeiriau a gwelyau. 

Amcangyfrifir y bydd hyd at 10 y cant o hyn yn addas i’w ailddefnyddio yn ei gyflwr presennol, a bydd 20 y cant arall yn ailddefnyddiadwy gyda rhyw fath o waith atgyweirio. Mae awdurdodau lleol yn gynyddol yn lleoli siopau ailddefnyddio ar eu safleoedd ailgylchu gwastraff y cartref, neu’n gwneud darpariaeth i asesu dodrefn a ellid o bosibl eu hailddefnyddio cyn eu gwaredu. Mae ailddefnyddio yn uwch ar yr hierarchaeth wastraff nag ailgylchu, gan ei fod yn arbed yr ynni a oedd ei angen i wneud yr eitem yn y lle cyntaf. 

Amcangyfrifir yn adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru, ‘Paratoi ar gyfer ailddefnyddio: mapio’r llwybr tuag at newid sylfaenol’ bod potensial i arbed hyd at 1,170,000 o dunelli o eitemau ailddefnyddiadwy (y gyfran fwyaf o hynny yn ddodrefn a thecstilau) o fod yn wastraff, a gallai Cymru wneud hyd at £1.5 mewn gwerthiant o eitemau a gaiff eu paratoi i’w hailddefnyddio, ynghyd ag arbedion nwyon tŷ gwydr o 4.6 miliwn o dunelli (CO2 cyfatebol) wrth gyfrif am y lleihad mewn allyriadau o losgi, tirlenwi a chynhyrchu a fyddai’n dod law yn llaw â’r cynnydd hwn mewn ailddefnyddio.

Pan nad oes modd ailddefnyddio dodrefn, yna bydd ailgylchu’n bosibl, a seilir hyn ar y deunydd y mae’r dodrefn wedi’u gwneud ohonynt, fel arfer pren, plastig neu fetel.


I ble mae dodrefn i’w hailgylchu’n mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd) - 2023/24

Prif gyrchfannau ailgylchu’r DU

Gwlad Tunelli
Wales 3,569t
England 14t

Prif gyrchfannau ailgylchu’r byd

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol