Gwydr
Mae gwydr yn cael ei ailgylchu ar draws y DU, gyda chasgliadau palmant a rhyw 50,000 o fanciau boteli o gwmpas y wlad yn dal y 752 tunnell o wydr sydd yn cael ei ailgylchu bob blwyddyn. Mae gwastraff gwydr yn sylweddol, gyda theuluoedd o gwmpas y DU yn defnyddio tua 330 o boteli a jariau gwydr bob blwyddyn.
Y peth gwych am wydr ydy efi fod o’n bosibl ei ailgylchu am byth, heb ddirywio’r ansawdd, a mae defnyddio gwydr wedi’i ailgylchu yn y proses gwneud gwydr yn lleihau defnydd egni, mewn gwirionedd.
Mae’r proses o ailgylchu gwydr yn cynnwys toddi'r gwydr a’i dorri i’r siâp a ddymunir. Mae ei ailgylchu yn creu buddion amgylcheddol; mae’r egni sydd yn cael ei arbed gan ailgylchu un botel gwydr yn ddigon i roi pŵer i deledu am ugain munud.
Mae yna dal anawsterau, gyda nifer i wneud efo tynnu halogyddion fel labeli gludiog, ac osgoi cymysgu gwydr lliwiau gwahanol.
Fedrwch ddysgu mwy am sut i ailgylchu gwydr ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
Proses ailgylchu
Caiff poteli a jariau gwydr eu gwahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill, os oes angen. Caiff eitemau nad ydynt yn wydr eu tynnu allan gan ddefnyddio magnetau a sugnedd aer
Caiff y gwydr wedyn ei ddidoli yn ôl lliw gan beiriannau laser a’u malu’n ddarnau bychain o’r enw ‘gwydrach’
Caiff y gwydrach ei doddi mewn ffwrnais
Caiff cynhwysion cemegol allweddol eu hychwanegu
Caiff y gwydr tawdd ei rannu’n ‘gobiau’ sy’n cael eu chwythu neu eu gwasgu i greu:
- poteli a jariau newydd (neu eitemau eraill o wydr)
- gwydr ffibr, fel deunydd inswleiddio cynaliadwy ar gyfer llofftydd, toeau a waliau