Budd ailgylchu

Y swm a ailgylchwyd
91,051t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£10,288,776
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
10%

Sgil-gynnyrch yw lludw gwaelod llosgydd, a elwir hefyd yn IBA (incinerator bottom ash), o losgi gwastraff gweddilliol, gyda neu heb adfer ynni, sy’n casglu ar waelod llosgyddion gwastraff trefol. Caiff tua 20 y cant o’r deunydd gwastraff a anfonir i’w losgi ei adfer fel IBA, a gellir ei brosesu i adfer metelau gwerthfawr, gyda’r gweddill yn cael ei ddefnyddio at ddibenion adeiladu. 

Yn ystod y broses adfer, cyn i IBA gael ei bennu’n addas i’w ailgylchu, caiff ei samplo a’i fesur i sicrhau nad yw’n beryglus a’i fod yn cydymffurfio yn unol â’r Cod Gwastraff Ewropeaidd 19 01 12. Pan gaiff y deunydd ei ddosbarthu fel un peryglus, yna mae angen ei drin ymhellach a bydd rheoliadau llymach ar gyfer cael gwared arno.

Unwaith iddo gael ei anfon i’w ailbrosesu, caiff yr IBA ei symud ymlaen ar feltiau cludo drwy fagnetau mawr sy’n tynnu’r elfennau IBA fferrus, yn enwedig dur, ohono. Wedi hyn, caiff lludw anfferrus hefyd ei wahanu ar gyfer ei ailbrosesu ymhellach ymlaen. Caiff hwn ei basio drwy wahanwyr cerrynt trolif, didoli anwythol a thechnoleg pelydr-x i wahanu’r gwahanol fathau o fetelau anfferrus, yn cynnwys sinc, pres, copr ac alwminiwm (sy’n ffurfio ffracsiwn mawr ohono, oherwydd y symiau o alwminiwm mewn deunyddiau pacio nad yw’n cael ei wahanu yn y rhannau cynharaf o’r broses ailgylchu).

Mae’r metelau hyn sydd wedi’u hadfer, rhai’n ddim mwy nag ambell filimedr o faint, wedyn yn cael eu hanfon ymlaen i’w prosesu ymhellach, i gael eu toddi i lawr i’w defnyddio ymhellach ymlaen mewn nwyddau metel, fel pibelli copr, tapiau pres, injan cerbydau alwminiwm neu sinc ocsid (mewn paent). Gellir adfer y rhain mewn symiau sylweddol, ac amcangyfrifir bod 1,000 o dunelli o alwminiwm yn cael ei adfer o IBA yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r gyfran fwyaf o’r IBA sydd dros ben yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adeiladu fel agreg eilaidd, yn bennaf fel is-sylfaen ar gyfer priffyrdd, meysydd parcio ac adeiladwaith arall ar gyfer traffig modurol. Pan gaiff ei gyfuno â sment, gellir ehangu’r defnydd o IBA ac mae’n arbennig o addas ar gyfer palmantu ffyrdd. Mae’r defnydd o IBA mewn gwaith adeiladu’n disodli’r defnydd o ddeunyddiau eraill i’w defnyddio mewn agreg, ac felly o bosibl yn lleihau’r ôl-troed carbon os caiff ei ddefnyddio’n lleol.

 

I ble mae llwch gwaelod llosgydd i’w ailgylchu’n mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd) - 2023/24

Prif gyrchfannau ailgylchu’r DU

Gwlad Tunelli
England 79,305t
Wales 2,825t
Cwmni Gwlad Tunelli
Day Aggregates Ltd England 43,219t
Ballast Phoenix Ltd England 18,848t
Johnsons Aggregates Ltd England 2,972t
Blue Phoenix Group England 2,685t
Viridor Wales 2,172t
Carbon8 Aggregates Limited England 1,934t
OCO Technology Ltd England 1,475t
Tarmac England 1,441t
Tarmac Ltd England 1,310t
Ash Metal Recycling Ltd England 722t
SUEZ England 671t
Augean Treatment Ltd England 591t

Prif gyrchfannau ailgylchu’r byd

Cwmni Gwlad Tunelli
unspecified unspecified 5,618t
unspecified Sweden 705t
Svergie AB Sweden 639t
Fortum Waste Solutions Sweden 481t
Tekniskaverken I Linkoping AB Sweden 396t
Norsk Gjenvinning Norge AS Norway 271t
Miljöhantering i Jönköping Sweden 159t
Meldgaard Miljo Denmark 155t
Ragn-Sells Sweden 128t
Frevar KF Norway 106t
Heidelberg Materials Antoing Belgium 70t
Afatek Denmark 55t