Metel
Metelau ydy nifer sylweddol o’r deunyddiau sydd yn cael ei ailgylchu yn y DU. Mae’r rhan fwyaf o fetelau medru cael eu hailddefnyddio, er bod yr ansawdd yn amrywio. Mae rhai metelau yn cael eu hailgylchu mwy na eraill, gydag alwminiwm a dur y mwyaf cyffredin.
Ailgylchu alwminiwm ydy un o’r ffyrdd mwyaf adnabyddus o ailgylchu yn y DU: bob blwyddyn mae tua 72 y cant o’r naw biliwn can alwminiwm sydd yn cael eu defnyddio yn y DU yn cael ei ailgylchu. Mae tunnell o alwminiwm wedi ei ailgylchu yn arbed y swm o garbon deuocsid a fyddai’n cael ei greu drwy yrru am 27,000 milltir.
Y defnydd mwyaf cyffredin ar gyfer alwminiwm wedi ei ailgylchu ydy gwneud pecynnau, yn enwedig caniau, ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, ond gelli hefyd cael ei ddefnyddio ar gyfer eitemau cartref a cherbydau fel ceir neu feiciau.
Mae dur yn 100 y cant ailgylchadwy ac yn cael ei ailgylchu o gwmpas y DU; cafodd 92 y cant o ddur a ddefnyddiwyd yn y diwydiant adeiladu a dymchwel ei ailgylchu yn 2012, tra mae 2.5 biliwn can dur yn cael ei amgylchu bob blwyddyn.
Gall dur sydd wedi ei ailgylchu cael ei ddefnyddio mewn cerbydau, cyfarpar domestig, peiriannau trwm, a deunyddiau adeiladu.
Mae metelau yn cael eu casglu o ochr y ffordd a banciau caniau cyn cael eu rachis a’u toddi mewn i ingotau mawr, sydd wedyn yn cael eu rholio yn gynfasau ar gyfer prosesu. Mae’n bwysig bod ddim halogiad yn y metel i sicrhau bod y deunydd sydd wedi ei ailgylchu yn cael ei droi yn gynnyrch newydd sgleiniog.
Fedrwch ddysgu mwy am sut i ailgylchu tuniau bwyd a chaniau diod metel ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
Proses ailgylchu
Caiff caniau a thuniau eu gwahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill, os oes angen. Defnyddir magnetau i wahanu’r caniau a thuniau dur oddi wrth y rhai alwminiwm
Caiff yr eitemau eu sypio
Caiff sypiau o ganiau eu rhwygo’n ddarnau mân
Caiff y darnau eu ‘dad-haenu’. Mae hyn yn golygu bod yr addurniadau wedi’u paentio ar yr alwminiwm yn cael ei dynnu drwy chwythu aer poeth drwy’r darnau mân
Mae’r darnau bach yn cael eu bwydo i mewn i ffwrnais
Caiff y metel tawdd wedyn ei arllwys a’i oeri’n barhaus gan ddŵr
Mae’n ffurfio ‘ingot’
Caiff yr ‘ingotau’ eu rholio’n ddalenni tenau, yn barod i greu caniau diodydd newydd, a gall y rhain fod yn ôl ar werth mewn cyn lleied ag wyth wythnos
Caiff caniau a thuniau eu gwahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill, os oes angen. Defnyddir magnetau i wahanu’r caniau a thuniau dur oddi wrth y rhai alwminiwm
Mae caniau a thuniau dur – sydd wedi’u gwneud o ddur tenau gyda haen tin arno – yn cael eu toddi gyda metel sgrap dur arall, fel sgrap modurol o geir a cherbydau eraill
Caiff y dur tawdd wedyn ei ffurfio’n slabiau
Mae’r slabiau dur yn creu haenau, sy’n cael eu gwneud yn duniau newydd