Absorbent Hygiene Products
Nwyddau Hylendid Amsugnol (Absorbent Hygiene Products/AHP)

Budd ailgylchu

Y swm a ailgylchwyd
3,915t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£442,421
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Mae Nwyddau Hylendid Amsugnol (AHP) yn cynnwys amrywiaeth o nwyddau wedi’u ffurfio o nifer o ddeunyddiau a gaiff eu defnyddio mewn bywyd bob dydd, wedi’u gwneud yn bennaf o ffibrau amsugnol a phlastig. Rhai o’r prif eitemau sy’n rhan o’r categori AHP yw cewynnau tafladwy, padiau anymataliaeth a nwyddau hylendid benywod. 

Mae’r deunyddiau hyn yn cyfrif am fwy na thri y cant o’r gwastraff ac ailgylchu o’r cartref a gynhyrchwn yn y wlad. Ar sail dadansoddiad cyfansoddiad WRAP o wastraff ac ailgylchu o’r cartref, mae Cymru’n cynhyrchu oddeutu 47,000 o dunelli o AHP y flwyddyn, yn cynnwys bron i 150 miliwn o gewynnau.

Ar hyn o bryd, cesglir AHP o ymyl y ffordd i’w ailgylchu gan fwy na thraean o awdurdodau lleol Cymru trwy wasanaethau casgliadau arbenigol. Caiff wedyn ei anfon i gyfleuster prosesu arbenigol, sy’n gwneud y didoli cychwynnol i gael gwared â deunyddiau nas targedir ac na ddylent fod wedi cael eu casglu gyda’r AHP. 

Yn dilyn hynny, caiff y gwastraff AHP ei rwygo’n fân, cyn cael ei drin mewn awtoclaf, peiriant sy’n rhoi pwysedd, gwres a stêm sylweddol ar y deunydd i gael gwared â’r gwastraff biolegol. Caiff y plastigion eu gwahanu oddi wrth y ffibr seliwlos, ac anfonir y plastigion ymlaen i gyfleusterau troi gwastraff yn ynni.

Caiff y ffibr seliwlos hwn wedyn ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o bethau, fel deunydd amsugno arllwysiadau olewau, hylifau oeri a dŵr, deunyddiau pacio a deunyddiau ar gyfer gwneud hysbysfyrddau. Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd ar gyfer ei ddefnyddio i gynhyrchu byrddau ffibr a chyfansoddion pren-plastig. 

Mae gwaith ymchwil a datblygu’n mynd rhagddo ar ddefnyddiau eraill posibl, yn cynnwys defnyddio’r deunydd terfynol mewn insiwleiddio, panelau waliau, deunydd acwstig ac o dan loriau laminedig.


I ble mae Nwyddau Hylendid Amsugnol i’w ailgylchu’n mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd) - 2021/22

Prif gyrchfannau ailgylchu’r DU

Gwlad Tunelli
Wales 3,903t
Cwmni Gwlad Tunelli
Natural UK Ltd Wales 2,940t
NappiCycle Ltd Wales 891t
Capel Hendre Industrial Estate Wales 44t
Envirofibre Ltd Wales 28t

Prif gyrchfannau ailgylchu’r byd

Cwmni Gwlad Tunelli
unspecified unspecified 12t