Papur
Papur a chardfwrdd yw rhai o’r deunyddiau ailgylchadwy mwyaf gwerthfawr yn y DU. Mae tua wyth miliwn tunnell o bapur a chardfwrdd yn cael ei adfer bob blwyddyn - mae hanner yn cael ei yrru i felynion bapur y DU ar gyfer ailgylchu, tra mae’r hanner arall yn cael ei allforio.
Er bod o’n bosibl ei ailgylchu, mae’r teulu cyfartalog yn y DU dal i daflu gwerth chwe choeden o bapur yn eu hysbwriel bob blwyddyn, tra bod bob tunnell o bapur wedi ei ailgylchu yn arbed cyfwerth 17 coeden, 380 galwyn o olew, 3m³ o ofod safle tirlenwi, 4,000 kwh o egni 7,000 galwyn o ddŵr.
Mae gwastraff papur yn cael ei ailgylchu drwy broses o rhacsio a pwlio er mwyn ei droi yn ôl yn raddau gwahanol o bapur. Mae’r problemau i wneud gydag ailgylchu papur yn ymwneud â dileu halogyddion a’r fath anghywir o bapur o’r llif: mae papur sydd yn cynnwys ychwanegion, er enghraifft bapur lapio neu bapur ‘gummed’, yn aml o safon rhy wael i fedru cael ei ailgylchu.
Mae cardfwrdd yn mynd drwy broses ailgylchu tebyg i bapur, ond mae’n rhaid aros ar wahân i lif y papur er mwyn osgoi marciau brown yn y papur newydd.
Fedrwch ddysgu mwy am sut i ailgylchu papur a chardbord ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
Proses ailgylchu
Caiff cardbord/papur ei wahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill, os oes angen
Caiff ei ddidoli a’i raddio yn wahanol gategorïau. Caiff cardbord ei anfon i felin i gael ei ailgylchu. Caiff papur o ansawdd uchel ei anfon i felin bapur i’w ailgylchu
Caiff y cardbord/papur ei fathru yn ‘fwydion’ mewn tanc sy’n cynnwys dŵr a chemegion, sy’n gwahanu’r ‘ffibrau’
Caiff y ffibrau eu sgrinio i hidlo allan labeli, gwydr, metel, plastig neu elfennau gludiog. Caiff ei lanhau trwy ei droi mewn cynhwysydd siâp côn
Caiff cemegion lliwio eu hychwanegu os oes angen a chaiff y mwydion ei bwmpio ar beiriant papur
Caiff ei chwistrellu ar wyneb rhwyllog sy’n symud yn gyflym, sy’n ffurfio dalen ac yn tynnu llawer o’r dŵr allan
Caiff ei wasgu i dynnu mwy fyth o’r dŵr a’i basio drwy roliau mawr cynnes, nes bydd y cynnwys lleithder a thrwch yn gywir
Ar ôl iddo sychu, caiff ei weindio ar roliau enfawr
Cardbord: Caiff y rholiau eu rhannu’n riliau llai, eu pacio a’u storio nes byddant yn cael eu hanfon i ‘addasydd deunyddiau pacio’ i greu eitemau newydd o ddeunydd pacio cardbord, fel bocsys cardbord
Papur: Caiff y rholiau eu rhannu’n riliau llai, eu pacio a’u storio nes byddant yn cael eu hanfon i greu eitemau newydd, fel:
- papurau newydd
- papur ysgrifennu