Plastig
Plastig ydy un o’r defnyddiau sydd yn cael ei ddefnyddio mwyaf yn y DU, ac mae o felly yn un o’r cyfranwyr mwyaf i wastraff y wlad. Mae tua 275,000 tunnell o blastig yn cael ei defnyddio bob blwyddyn yn y DU, gan gynnwys 7.7 biliwn botel blastig sydd yn cael ei defnyddio unwaith yn unig. Mae llawer o’r plastig yma yn cyrraedd ein strydoedd ac ein hafonydd.
Oherwydd nad yw plastig yn fioddiraddadwy mae’n bwysig ei ailgylchu yn gywir i’w rhwystro rhag cyrraedd yr amgylchedd. Fodd bynnag, dim ond rhyw draean o becynnu plastig y cartref sydd yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd, gyda’r mwyafrif o gartrefi yn cael gwared â 40kg o blastig bob blwyddyn.
Mae ailgylchu plastig medru bod yn anodd, oherwydd bod y plastigion i gyd sydd yn cael eu casglu ar gyfer ailgylchu angen cael eu gwahanu i grwpiau gwahanol yn dibynnu ar ba bolymerau maent yn ei chynnwys. Os ydy polymerau wedi eu cymysgu gyda'i gilydd pan mae’r plastig yn cael ei rhacsio a’i thorri yn y proses ailgylchu, byddent yn gwanhau'r cynnyrch sydd wedi ei ailgylchu.
Ymhellach hefyd, mae yna yn aml ddryswch ynglŷn â pha fathau o blastig a ellir ei ailgylchu. Ddylswch o hyd darllen y label ar becynnu'r cynnyrch, neu wefan eich awdurdod lleol er mwyn bod yn siŵr.
Fedrwch ddysgu mwy am sut i ailgylchu poteli plastig a photiau a thybiau plastig ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
Proses ailgylchu
Caiff eitemau plastig eu gwahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill, os oes angen
Cânt eu didoli yn ôl y math o blastig ac yn ôl lliw – glas, gwyrdd, naturiol a chymysg
Cânt eu glanhau, eu rhwygo’n fân, eu golchi, eu toddi a’u hailffurfio i wneud ‘pelenni’
Defnyddir y pelenni i greu eitemau newydd, yn cynnwys:
- dillad
- teganau
- meinciau picnic
- poteli
- potiau
- tybiau
- ... a mwy