Pren
Cynhyrchir oddeutu pum miliwn tunnell o wastraff pren yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac anfonir cyfran fawr ohono i’w ailgylchu ac i adfer ynni.
Mae WRAP wedi datblygu manyleb sydd ar gael yn gyhoeddus (Publicly Available Specification) PAS 111, sy’n nodi’r safon ofynnol ar gyfer gwastraff pren wedi’i adfer er mwyn iddo fod yn addas i’w ailgylchu. Mae hwn yn pennu’r cyflwr a’r lefel o halogiad sy’n dderbyniol er mwyn sicrhau bod gwastraff pren yn addas i’w ailgylchu, yn ogystal â phennu pa fathau o bren sy’n beryglus ac felly’n anaddas i’w hailgylchu.
Mae’r gwastraff pren a anfonir i’w ailgylchu’n dod o nifer o ffynonellau, yn bennaf yn gysylltiedig â deunyddiau pacio, gwaith adnewyddu’r cartref (DIY) neu ddodrefn ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn cynnwys toriadau, bocsys, cesys pacio, byrddau llawr, sglodfwrdd ac OSB; pren haenog; melamin a phren wedi’i laminadu; ac MDF. Cesglir y rhan fwyaf o wastraff pren o gartrefi mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Dosberthir gwastraff pren o goed a llwyni fel gwastraff gwyrdd neu organig. Caiff hwn ei anfon i’w gompostio fel arfer.
Yn ogystal ag ailgylchu pren, mae nifer o fusnesau dan berchnogaeth gymunedol a busnesau preifat yn darparu gwasanaethau ailddefnyddio pren, sy’n adennill pren y gellir ei ddefnyddio i’w ailwerthu.
Nid proses dolen gaeedig mo cyfran fawr o ailgylchu pren. Yn hytrach, caiff gwastraff pren ei ailgylchu i wneud nwyddau newydd gwerthfawr. Yn rhai o’r enghreifftiau isod, mater o uwchgylchu yw hyn, pan fo’r cynnyrch a ailgylchwyd o werth uwch na’r deunydd gwreiddiol sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes.
Arwynebau tirlunio
Un o’r prif ffydd y caiff gwastraff pren eilgylch ei ddefnyddio yw mewn tirlunio, sy’n defnyddio sglodion o bren eilgylch fel gorchudd i’w daenu ar lawr mewn amrywiaeth o gyd-destunau wedi iddo fynd drwy broses gynhyrchu a glanhau llym, gan sicrhau bod y maint a’r ansawdd yn addas i’r diben bwriadedig.
Pan gaiff ei daenu ar erddi neu dir amaethyddol, mae sglodion pren eilgylch yn gwneud gorchudd tir rhagorol ar gyfer llwybrau, diolch i’w natur wydn a’i allu i atal chwyn. Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn nwyddau garddio eraill, fel tomwellt.
Defnyddir pren eilgylch hefyd at ddibenion mwy hamddenol, fel gorchuddion tir mewn meysydd marchogaeth, mannau chwarae plant a llwybrau golff, ac mae awdurdodau lleol yn gynyddol yn defnyddio sglodion pren eilgylch i farcio llwybrau ac i wneud i gyfleusterau lleol edrych yn fwy dymunol.
Deunyddiau gorwedd i anifeiliaid
Mae ffibr pren eilgylch yn ddeunydd cynyddol boblogaidd i’w ddefnyddio fel deunydd gorwedd i anifeiliaid mewn amgylcheddau amaethyddol a chartrefi. Diolch i’w nodweddion cynnes ac amsugnol, sy’n golygu y gellir ei wella gan ddefnyddio ychwanegion, mae ffibr pren eilgylch yn cael ei ddefnyddio’n aml erbyn hyn i ffurfio sail deunydd gorwedd ar gyfer da byw ac anifeiliaid anwes ill dau. Cyn cael ei droi’n ddeunydd gorwedd, caiff y pren eilgylch ei lanhau drwy broses llym sy’n sicrhau nad oes llwch a halogiad yn y deunydd terfynol.
Byrddau Panel
Un o’r prif lwybrau diwedd oes ar gyfer ffibrau pren eilgylch yw byrddau panel, sy’n defnyddio tua 850,000 o dunelli o bren eilgylch y flwyddyn i gyfrannu at ddefnydd y Deyrnas Unedig o bum miliwn o fetrau ciwbig o fyrddau panel bob blwyddyn.
Caiff byrddau panel eu cynhyrchu gan ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd eilgylch a deunydd crai, a dosberthir y nwyddau fel deunyddiau haenog sy’n cynnwys pren fel prif ddeunydd. Mae defnyddio cyfuniad o ddeunydd eilgylch a deunydd crai yn fanteisiol gan fod pren eilgylch yn sychach na phren crai. Mae symiau’r cymysgedd o’r ddau yn dibynnu ar y cynnyrch terfynol unigol, fel pren haenog, pren gronynnog (yn cynnwys sglodfwrdd), byrddau ceinciau cyfeiriadol, a byrddau ffibr yn cynnwys MDF.
Biomas
Heblaw am fynd i wneud nwyddau newydd, gellir defnyddio pren eilgylch mewn cyfleusterau biomas i gynhyrchu gwres ac ynni. Defnyddir 3.1 miliwn o dunelli o wastraff pren bob blwyddyn i greu ynni, sy’n cyfateb i 3,500 o oriau gigawat.