WEEE
Mae gwastraff trydanol ac offer electronig yn dod yn rhan fawr o wast y DU fel cymdeithas defnyddwyr modern, gyda thua 1.3 miliwn tunnell o nwyddau electronig yn cael eu taflu allan bob blwyddyn, rhyw 38 y cant o’r cyfanswm yma sydd yn cael ei ailgylchu. Mae’r broses o adfer deunyddiau wedi symud ymlaen yn y blynyddoedd diweddar, gyda 75 y cant o eitemau trydanol yn 2010 yn cael ei ailddefnyddio neu gael y deunyddiau wedi eu hadfer yn llwyddiannus.
Mae peiriannau mawr yn y cartref, er enghraifft oergelloedd a pheiriannau golchi yn 40 y cant o eitemau electronig, ond mae hefyd yn cynnwys teledai, peiriannau bach y cartref, teganau electronig a nwyddau trydanol eraill.
Mae ailgylchu eitemau electronig yn anodd oherwydd amrywiaeth y deunyddiau sydd yn rhan o’r cynnyrch (ac mae rhai ohonynt yn beryglus, fel mercwri neu gadmiwm) ac amrywiaeth y cynnyrch eu hunain. Tra mae prosesau ailgylchu yn amrywio yn fawr oherwydd y wahanol ddeunyddiau, mae’r rhan fwyaf yn cynnwys gwahanu'r cydrannau unigol felly mae’n bosibl eu prosesu ar wahân.
Mae’r proses olynol yn fersiwn symlach o’r proses ailgylchu eitemau trydanol, oherwydd amrywiaeth y prosesau sydd yn cael eu defnyddio i ailgylchu peiriannau electronig gwahanol.
Fedrwch ddysgu sut i ailgylchu eitemau trydanol a nwyddau gwynion ar wefan Cymru yn Ailgylchu.