Ynglŷn â Fy Ailgylchu Cymru
Ydych chi erioed wedi meddwl am beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ar ôl i’ch awdurdodau lleol ei gasglu? Mae Fy Ailgylchu Cymru yn eich galluogi i bori awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i'ch gwastraff o’r cartref ledled y DU, a hyd yn oed o gwmpas y byd.
Mae’r wefan yn dangos faint o ailgylchu mae eich awdurdod lleol yn ei gasglu bob blwyddyn, a beth sy’n digwydd iddo.
Dylai sefydliadau – fel busnesau, y sector cyhoeddus, ac elusennau – gysylltu â’u casglwr gwastraff i gael gwybod i ble mae eu gwastraff busnes/masnachol yn mynd.
Ariennir Fy Ailgylchu Cymru gan Lywodraeth Cymru a’r arbenigwyr amgylcheddol WRAP Cymru.
Sut mae’r data yn cael ei gasglu?
Mae’r data a ddefnyddir ar y wefan hon yn dod o WasteDataFlow, system adrodd ar-lein ar gyfer casglu data gwastraff gan bob awdurdod lleol ar draws y Deyrnas Unedig, sef y gwastraff a gesglir gan gynghorau o gartrefi a busnesau. Nid yw'n cynnwys gwastraff a gesglir gan fusnesau gan gwmnïau gwastraff preifat.
Mae’r data a ddarperir gan awdurdodau lleol Cymru wedi cael ei ddilysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cwestiwn 100 yn WasteDataFlow yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd gymaint o wybodaeth â phosibl o fewn reswm am yr hyn sy’n digwydd i ddeunyddiau a gaiff eu hanfon i’w hailgylchu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cynorthwyo awdurdodau lleol i wella cywirdeb eu hadroddiadau.
Y gwahanol fathau o gyrchfannau
Mae pob cyrchfan yr adroddir arni yn cael ei dosbarthu yn ôl math, fel a ganlyn:
-
MRF: Mae Cyfleuster Adfer Deunyddiau (Materials Recovery Facility) yn gwahanu a pharatoi deunyddiau ailgylchadwy i gael eu gwerthu i’r farchnad neu wneuthurwyr. Mae unrhyw ddeunyddiau na ellir eu hailgylchu yn cael eu hanfon ar gyfer triniaeth bellach neu eu gwaredu. Fel arfer, mae yna ddau fath o MRF: Glân a Gweddilliol.
-
Mae MRF Glân yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy i fathau gwahanol er mwyn eu paratoi ar gyfer eu trosglwyddo ymlaen.
-
Mae MRF Gweddilliol yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth wastraff cymysg a gwastraff gweddilliol. Mae deunyddiau wedi’u hadennill yn cael eu trosglwyddo ymlaen.
-
-
Masnachwyr: Mae masnachwyr ar gyfer gwastraff ailgylchadwy yn helpu gwneuthurwyr ledled y byd gyrchu deunyddiau ailgylchadwy ac eilgylch i’w defnyddio yn eu prosesau cynhyrchu. Mae masnachwyr yn gweithio fel hyrwyddwyr ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy rhwng y gwahanol farchnadoedd.
- Ailbroseswr: Mae ailbroseswyr yn cymryd deunyddiau ailgylchadwy wedi’u gwahanu ac yn eu hailgynhyrchu i wneud cynnyrch newydd. Mae gan rai ailbroseswyr MRF ar y safle, ond nid yw hyn yn wir bob amser, ac felly mae'n rhaid prynu mewnbynnau ailgylchadwy gan gyflenwr yn aml.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor bell alla’ i olrhain fy ailgylchu?
Mae Fy Ailgylchu Cymru yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Mewn rhai achosion, golyga hyn y gellir olrhain ailgylchu mor bell â’r ailbroseswr, gydag eraill, aiff mor bell ag allforiwr neu fasnachwr. Rydym yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl ond weithiau nid yw’r data ar gael.
Beth mae ‘anhysbys’ yn ei olygu?
Mae anhysbys yn golygu nad oes gennym ddigon o wybodaeth i ganfod y gyrchfan derfynol. Cynhwysir yr holl wybodaeth sydd gennym, ac mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallant.
Pam mae fy awdurdod lleol yn allforio ailgylchu?
Mae deunydd ailgylchadwy yn adnodd, a gellid bod galw am yr adnodd hwnnw o gwmpas y byd. Gall awdurdodau lleol, broceriaid neu gyfleusterau trin gwastraff allforio deunyddiau gwastraff ailgylchadwy i gwrdd â’r galw hwnnw a chael y pris gorau am eu deunyddiau, cyn belled â’u bod yn cwrdd â’r safonau ansawdd gofynnol ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae ymchwil WRAP yn dangos y gellir gwneud arbedion CO2e trwy ailgylchu deunyddiau yn hytrach na’u hanfon i dirlenwi a defnyddio deunydd crai, hyd yn oed os caiff y deunyddiau hynny eu cludo dramor. Yn aml, caiff deunyddiau eu hanfon i wledydd y mae’r Deyrnas Unedig yn mewnforio nwyddau ganddi. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod allforio yn opsiwn cynaliadwy’n amgylcheddol, ond mae union natur y budd yn dibynnu ar beth sy’n cael ei wneud â’r deunydd eilgylch (hynny yw, beth mae’n ei ddisodli). Mae hyn yn bwysicach na’r allyriadau cludo. Nid yw’r ymchwil yn gwneud unrhyw asesiad o’r buddion cymharol o ailgylchu i farchnadoedd domestig yn unig yn hytrach nag i wledydd eraill.
Sut mae darganfod beth alla’ i ei ailgylchu yn fy ardal leol?
Roeddwn i’n meddwl bod fy ailgylchu yn cael ei anfon dramor – pam ydych chi’n dweud ei fod yn aros yng Nghymru?
Mae Fy Ailgylchu Cymru yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ar gael. Weithiau bydd awdurdodau lleol yn gwerthu ailgylchu i gwmni yng Nghymru, ac mae’r cwmni hwnnw’n ei allforio. Mewn rhai achosion, nid oes gwybodaeth ar gael am beth sy’n digwydd iddo wedi iddo gael ei werthu o fewn Cymru. Os felly, nodir y lleoliad hysbys diwethaf, hynny yw, Cymru. Os yw gwybodaeth ar gael sy’n dangos allforio’r ailgylchu, caiff yr wybodaeth honno ei chynnwys, a nodir ‘anhysbys’ os nad yw’n hysbys pa wlad yw’r gyrchfan derfynol.
Pam mae’r siart yn dangos ailgylchu yn mynd i Tsieina, pan fo gan y wlad honno waharddiad ar fewnforio ailgylchu?
Daeth gwaharddiad mewnforio Tsieina i rym yn 2017/18, ac felly gall data a ddangoswyd cyn y flwyddyn honno ddangos ailgylchu yn mynd i Tsieina.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y siartiau llinol a logarithmig? Pam maen nhw mor wahanol?
Mae’r siartiau yn defnyddio’r un data, ond maen nhw’n ei gynrychioli mewn ffyrdd gwahanol.
Mae’r raddfa ar y siart llinol yn mynd i fyny mewn cyfyngau hafal (er enghraifft, 10, 20, 30, 40, ac yn y blaen), ond nid felly’r raddfa ar y siart logarithmig (er enghraifft, 10, 100, 1,000).
Mae’r siart llinol yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu dau neu fwy o ganlyniadau, fodd bynnag gan fod y gwahaniaethau rhwng y mwyaf a’r lleiaf yn gallu bod yn sylweddol, gall y canlyniadau isaf fod yn rhy fach i’w gweld.
Mae’r siart logarithmig yn ei gwneud yn haws i weld yr holl ganlyniadau.
Pa mor aml mae’r safle’n cael ei ddiweddaru?
Caiff Fy Ailgylchu Cymru ei ddiweddaru bob blwyddyn, unwaith y bydd y data blynyddol diweddaraf wedi’i ddilysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gennyf gwestiwn arall, lle alla’ i holi?
Os ydych yn dod o sefydliad, cysylltwch â’ch casglwr gwastraff i gael gwybod i ble mae eich gwastraff busnes/masnachol yn mynd.
Os mai newyddiadurwr ydych chi, ewch i Ganolfan Cyfryngau WRAP.