Ynys Môn
Gwasanaeth Ailgylchu
Mae Ynys Môn yn darparu gwasanaeth casglu didoli wythnosol i breswylwyr ar gyfer bwyd ac ailgylchu sych, ac mae preswylwyr yn gosod ailgylchu mewn: bocs coch 38-litr ar gyfer papur, cerdyn a thecstilau (mewn bag plastig); bocs 55-litr glas ar gyfer poteli a photiau plastig, caniau cymysg ac eitemau ffoil glan; bocs 55 litr oren ar gyfer poteli a jariau gwydr, a chardfwrdd; a chynhwysydd gwastraff bwyd 23 litr brown, ac un 7 litr i’w gadw yn y gegin.
Mae'r cyngor hefyd yn gweithredu gwasanaeth gwastraff gardd pob pythefnos, ac mae’r hawl gan breswylwyr i gael bin olwynion gwyrdd 240 litr.
Yn ogystal, mae gwasanaeth casglu cewynnau ar gyfer plant dan 4 oed yn cael ei ddarparu i gartrefi sy'n talu treth cyngor. Gellir casglu eitemau gwastraff domestig swmpus am gost o £30 am hyd at bedair eitem.
Ers mis Hydref 2016, mae’r cyngor yn casglu gwastraff gweddilliol unwaith pob tair wythnos, o finiau olwynion du 240 litr.
Mae gan y cyngor ddwy ganolfan ailgylchu gwastraff o’r cartref yn y sir yn Penhesgyn a Gwalchmai.