Budd ailgylchu

Y swm a ailgylchwyd
-t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£-
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
-%

Mae gwaith ailwampio yn y cartref a’r ardd yn aml yn arwain at gludo gwastraff a rwbel i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Gall hyn gynnwys amrywiaeth eang o fathau o ddeunyddiau, yn cynnwys brics, cerrig, concrit a phridd. 

Yn debyg iawn i’r diwydiant adeiladu, gellir didoli llawer o’r gwastraff hwn o’r cartref i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu fel agreg neu bridd, i’w ddefnyddio i ddisodli deunydd newydd o’r tir yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Y deunyddiau hyn, wrth gyfrif gwastraff ailgylchadwy tebyg o’r diwydiant adeiladu masnachol, sy’n ffurfio’r ffracsiwn mwyaf o’r ffrwd wastraff yn ei chyfanrwydd. 

Fel arfer, bydd awdurdodau lleol yn caniatáu i breswylwyr ddod â chwota o seiliau caled, rwbel a phridd o brosiectau adnewyddu’r cartref mewn symiau y buasai’n rhesymol i’r preswyliwr fod wedi’i greu ei hunan. Disgwylir i waith adeiladu a garddio domestig ar raddfa fwy gael ei reoli drwy gontractwr preifat, fel cwmni llogi sgipiau. Bydd y gwastraff hwn, mae’n debygol, yn mynd drwy’r un broses o wahanu, graddio ac ailbrosesu fel rwbel, pridd a deunydd adeiladu â’r deunyddiau a gesglir mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. 

Mewn rhai achosion, bydd adeiladwyr masnachol ar raddfa fach a garddwyr tirlunio yn cael trwyddedau i ddod â deunydd gwastraff, yn cynnwys seiliau caled, rwbel a gwastraff adeiladu i’w ailgylchu drwy ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Mae gan bob cyngor ei bolisi a’i drefniadau ei hunan, felly mae angen holi’r awdurdod lleol perthnasol i gael gwybod yr hyn maen nhw’n ei ganiatáu. 

Mae’r data a gyflwynir ar y safle hwn yn cyfrif yn benodol am y rwbel a gesglir gan bob awdurdod lleol yn ei safleoedd ailgylchu gwastraff y cartref. 

Caiff brics, concrit a cherrig o gartrefi eu trin gan gwmnïau ailbrosesu arbenigol sy’n gweithio i safonau a gytunwyd arnynt i ailgylchu neu ailddefnyddio’r deunydd. Mae hyn yn cynnwys proses o ddidoli’r rwbel a’r malurion yn ôl eu maint drwy ddefnyddio sgriniau. Caiff rhywfaint o’r deunydd wedyn ei wasgu, yn dibynnu ar y defnydd a fwriedir ar ei gyfer. 

Mae’r amrywiol raddau o agreg a geir o ganlyniad i’r broses yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddibenion adeiladu, yn bennaf gyda choncrit, ond hefyd ar ffurf rydd fel is-sylfaen ar gyfer adeiladu ffyrdd, palmentydd, systemau draenio, argloddiau a mathau eraill o adeiladwaith lefel isel. 

Mae defnyddio agregau eilgylch yn cyfrannu at gynaliadwyedd yn gyffredinol, nid yn unig yn nhermau lleihau allyriadau carbon deuocsid o’u cymharu â chyrchu a defnyddio agregau crai ar gyfer adeiladu, ond hefyd yn nhermau’r fantais amgylcheddol a ddaw o osgoi teneuo’r pridd a defnyddio’r tir, sy’n arwain at ddisodli carbon sy’n sownd yn y ddaear, yn ogystal â bioamrywiaeth o ganlyniad i gloddio am agregau crai ar gyfer adeiladu.


I ble mae rwbel ac agregau i’w hailgylchu’n mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd) - 2018/19

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol


Prif gyrchfannau ailgylchu’r DU

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol


Prif gyrchfannau ailgylchu’r byd

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol

Dim canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ddewisol