Canran ailgylchu
64%
Cyfanswm gwastraff y pen
514kg
Gwastraff gweddilliol y pen
187kg

Gwasanaeth Ailgylchu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CCBC) yn darparu gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer ailgylchu. Mae hyn yn golygu ei fod yn casglu deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân.

Mae’n casglu:

  • gwastraff bwyd bob wythnos, o gadi du gyda chaead gwyrdd yn defnyddio bagiau leinio cadi a ddarperir gan y Cyngor am ddim;
     
  • ailgylchu sych bob wythnos, naillai o uned Trolibocs sy’n cynnwys tri bocs, neu fagiau ailddefnyddiadwy a bocs, sy’n caniatáu i breswylwyr wahanu eu:
     
    • poteli a jariau gwydr a chardfwrdd,
       
    • caniau, tuniau, aerosolau a ffoil metel, poteli, potiau a thybiau plastig, a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak), a
       
    • phapur;
       
  • batris o’r cartref bob wythnos, o fag gwyn ailddefnyddiadwy
     
  • eitemau trydanol bach bob pythefnos, mewn sachau pinc untro;
     
  • tecstilau bob pythefnos, mewn sachau piws untro; a
     
  • phodiau coffi bob pythefnos, mewn sachau gwyrdd untro.

Mae CCBC hefyd yn casglu:

  • nwyddau hylendid amsugnol, fel clytiau tafladwy ac eitemau anymataliaeth, bob wythnos mewn sachau untro o'r tu mewn i gadi, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim yma;
     
  • gwastraff gardd bob pythefnos, o fin ar olwynion brown, o gartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy yma; a
     
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pedair wythnos, o fin ar olwynion du 240-litr.

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus ar gyfer eitemau mawr (hyd at bedair eitem). I drefnu casgliad, neu i ddarganfod faint mae'r gwasanaeth hwn yn ei gostio, dylai preswylwyr ymweld â gwefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn rheoli dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ac yn gweithredu gwasanaeth canolfan ailgylchu symudol mewn tri lleoliad ar y dydd Sadwrn cyntaf, ail a thrydydd o bob mis. Rhaid i breswylwyr drefnu apwyntiad cyn iddynt ymweld â safle.

Ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn yr ardal

Mochdre Household Recycling Centre

Mochdre Household Recycling Centre
53.2981, -3.75959

Gofer Household Recycling Centre, Abergele

Gofer Household Recycling Centre, Abergele
53.2826, -3.54216

Cafodd cyfanswm o
Holl ddeunyddiau
38k
tunnell o wastraff ei ailgylchu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
£3m
ei arbed gan ailgylchu yn lle ei gwaredu
Cafodd cyfanswm o
Deunyddiau a ddewiswyd
15k
tunnell o allyriadau CO2 ei osgoi

5 Cyrchfan ailgylchu mwyaf y DU

1
Waste Recycling Group
Betws-yn-Rhos, Wales
6,225t
Deunyddiau Organig
2
UPM Kymmene Ltd
Shotton, Wales
5,296t
Papur
3
Berryman
North Elmsall, England
3,951t
Gwydr
4
S C Composting
Henryd, Wales
3,917t
Deunyddiau Organig
5
Biogen
Llanllyfni, Wales
3,003t
Deunyddiau Organig

I ble mae ailgylchu Cymru yn mynd?

Prif wledydd (deunyddiau a ddewiswyd)

Deunyddiau Organig

Organic waste icon

Y swm a ailgylchwyd
15,226t
CO2 osgowyd
761t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£1,720,548
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Gwydr

Glass icon

Y swm a ailgylchwyd
4,048t
CO2 osgowyd
3,056t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£457,439
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Metel

Metal icon

Y swm a ailgylchwyd
1,541t
CO2 osgowyd
3,913t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£174,087
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Papur

Paper and cardboard icon

Y swm a ailgylchwyd
5,308t
CO2 osgowyd
2,903t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£599,771
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
0%

Cyrchfannau

Plastig

Plastic icon

Y swm a ailgylchwyd
1,741t
CO2 osgowyd
933t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£196,722
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
72%

Cyrchfannau

Tecstilau

Textil icon

Y swm a ailgylchwyd
608t
CO2 osgowyd
3,544t
Amcangyfrif o'r arbediad gwaredu
£68,720
Adroddwyd ei fod wedi'i allforio
2%

Cyrchfannau