Mae UPM Kymmene (UK) Ltd yn gwmni diwydiant coedwig o’r Ffindir sy'n creu nwyddau newydd o ddeunyddiau bio a ffibr papur adnewyddadwy neu ailgylchadwy. Mae'r cwmni'n gweithredu'n fyd-eang ac mae ganddo ddwy felin bapur yn y Deyrnas Unedig, un yn Shotton, ger Caer, sydd hefyd yn Gyfleuster Adennill Deunyddiau (MRF), a'r llall yng Ngogledd Ayrshire yn yr Alban.