Wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru, sefydlwyd Crest Cooperative ym 1998 fel menter gymdeithasol er mwyn helpu oedolion anabl a di-waith i ennill sgiliau a chyflogaeth, cyn ehangu i ddarparu rhai gwasanaethau ailgylchu. Mae Crest Cooperative yn casglu tecstilau gwastraff, trydanol a dodrefn ac yn eu gwerthu yn ei siop adennill dodrefn ym Mae Colwyn a'i siop gymunedol yng Nghyffordd Llandudno.